Mae enwogion byd y teledu a'r radio a'n prif gogyddion o bob cwr o'r DU yn cefnogi'r Cinio Mawr yn eu hardaloedd nhw. Darllenwch yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud amdanom ni.
Carol SmillieBu'r gyflwynwraig deledu Carol Smillie yn helpu i lansio'r Cinio Mawr dros y ffin i'r gogledd yn 2011. Mae hi'n dweud bod y fenter yn 'galluogi cymdogion i ddod i adnabod ei gilydd, ffurfio cyfeillgarwch newydd a chryfhau cymunedau.'
Yr actores Lynda Bellingham, oedd Llysgenhades Y Cinio Mawr 2011 yn y DU, ac meddai: 'Mae'n wych gweld cynifer o bobl ledled y DU yn ymuno a'u cymdogion.'
Alison Hammond'Mae'r Cinio Mawr yn fenter wych, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gwneud amser i gymryd rhan a chynnal eu cinio eu hunain.' Bu'r gyflwynwraig deledu Alison Hammond yn ein helpu i ledaenu'r gair am Y Cinio Mawr yn y Canolbarth yn 2011.
Liz McClarnonCafodd un Cinio Mawr lwcus yn Lerpwl gwmni'r gantores o'r dref honno, Liz McClarnon yn 2011. Bu'n annog pobl i'w 'gwneud hi'n eithriad, yn hytrach na'r drefn, nad yw cymdogion yn adnabod ei gilydd.'
Boris JohnsonRhoddodd Maer Llundain, Boris Johnson ei gefnogaeth i sawl Cinio Mawr ar draws y brifddinas yn 2011, gan ddweud: 'Os ydych am ddod a'ch cymuned leol ynghyd, ymunwch i fod yn rhan o'r Cinio Mawr.'
Barbara Windsor Mae'r actores hwyliog wedi ymuno a ni a gweithredu fel Llysgenhades Parti Stryd Boris Johnson yn Llundain. Meddai: 'Rwy'n hynod gyffrous o gael bod yn rhan o'r hyn fydd yn flwyddyn gyffrous a hanesyddol i'r Cinio Mawr.'
Levi RootsMae'r cogydd enwog Levi Roots yn disgrifio'r Cinio Mawr fel 'prosiect i'w edmygu'. Bu'n ein helpu i ledaenu'r newyddion am y Cinio Mawr yn Llundain yn 2011.
Hugh Fearnley-Whittingstall Mae'r cogydd sy'n frwd dros dyfu eich cynnyrch eich hun, wedi darparu sawl rysáit blasus i bobl y Cinio Mawr dros y blynyddoedd. Meddai: ' Mae'r Cinio Mawr a Landshare yn cynnig ffyrdd gwych i bobl ddod at ei gilydd a mwynhau bwyd da.'
James MartinBu'r cogydd o Swydd Efrog, James Martin yn lledaenu'r gair am y Cinio Mawr ar orsafoedd radio yn y DU yn 2011. Dywedodd ei fod wedi 'clywed am rai prosiectau gwych sydd wedi deillio o'r Cinio Mawr dros y blynyddoedd diwethaf!'
Rhannwch eich stori gyda'r Cinio Mawr
Dilynwch ni