Y Prosiect Eden
The Big Lunch 2012 - an Eden Project

Cefnogir gan

  • Y Gronfa Loteri Fawr
  • MasterCard
  • EDF Energy
  • Kingsmill
  • Asda

Cinio Mawr y Jiwbilî
Dydd Sul 3 Mehefin, 2012

Jiwbilî Diemwnt y FrenhinesMae'n bosib eich bod eisoes yn gwybod, bydd y Cinio Mawr blwyddyn nesaf, yn disgyn ar yr un penwythnos â Jiwbilî Diemwnt y Frenhines. Felly gall unrhywun sydd am ddathlu 60 blwyddyn teyrnasiad y Frenhines, gwneud hynny trwy gynnal Cinio Mawr!

Mae 4 diwrnod wedi ei gyhoeddi i nodi'r achlysur, felly bydd digon o amser i chi eu mwynhau gyda'ch cymuned dros y penwythnos hir - Dydd Sadwrn 2 - Dydd Mawrth 5 Mehefin.

Rydym yn falch iawn fod y Cinio Mawr yn rhan o'r digwyddiad pwysig yma. Wnaeth tua 10 miliwn o bobl dathlu y Jiwbilî Arian yn 1977, felly rydym yn gobeithio bydd nifer fawr o bobl yn cymryd rhan yn y Cinio Mawr yn 2012!

Atyniad y Cinio Mawr yw fod pob dim yn cael ei trefnu gan y pobl sy'n cymryd rhan. Golygir hyn fod lleoliad y Cinio Mawr, y thema, y bwyd a'r gweithgareddau yn hollol seiliedig ar eich syniadau chi! Er enghraifft, os ydych am godi arian ar gyfer elusen neu chwarae cerddoriaeth yn uchel- ewch ati (gan sicrhau fod eich cymdogion yn hapus gyda hyn wrth gwrs)!

Gallwch gau eich ffordd os yn trefnu parti stryd fawr neu mae'n bosib defnyddio parc lleol ar gyfer barbeciw bach cymunedol!

Bydd tîm y Cino Mawr ar gael trwy gydol y paratoadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau cysylltwch â ni drwy info@thebiglunch.com neu ffoniwch 0845 850 8181 i siarad ag un o'r tîm.

Yn syml, rydym am hybu pobl Prydain i fwynhau pryd o fwyd gyda'u cymdogion ar ddydd Sul cyntaf mis Mehefin.

Wedi'r cyfan mae'r Cinio Mawr yn ymwneud â, cyfeillgarwch cymunedol a hwyl!

Sunday 3rd June

Rhannwch eich stori gyda'r Cinio Mawr

Cadw mewn cysylltiad

Derbyn ein cylchlythyr, yn llawn syniadau, pethau am ddim a chystadlaethau.

Straeon llwyddiant

Big Lunch map

Ysbrydoliaeth o Ginio Mawr y gorffennol ledled y wlad.

Gweld map o'r Cinio Mawr

Symbyliad a syniadau

[image]

Nifer o ffyrdd i wneud eich Cinio Mawr yn hwyl i bawb.

Cychwyn arni

Dilynwch ni