Ers 2009, un diwrnod yn ystod yr haf, bydd cymdogion ar hyd a lled y wlad yn cynnal partïon stryd, barbeciws, digwyddiadau cymunedol ac aduniad syml i nodi'r Cinio Mawr. Dyma rai o uchafbwyntiau'r pedair blynedd gyntaf...
Am flwyddyn gyda 8.5 miliwn o bobl yn cymryd rhan yng Nghinio Mawr 2012!
Cynhaliwyd Cinio Mawr ym mhob twll a chornel o'r DU: o Ynys Lewis yn yr Hebrides i Ynys Wyth yn Hampshire, o Gastell Hillsborough yn Swydd Down i Great Yarmouth yn Norfolk i Truro yng Nghernyw.
O ganlyniad, byddai 97% ohonoch yn argymell y Cinio Mawr i'ch teulu a 72% yn dweud mai'r agwedd fwyaf llwyddiannus oedd y 'teimlad cryf o gymuned'.
Yn 2011 ymunodd tua dwy filiwn o bobl gyda'r Cinio Mawr.
Roedd digwyddiadau ledled y DU yn amrywio o draeth yn yr Alban i orsaf dan yn Swydd Stafford.
Clywyd am bob math o gemau annisgwyl yn cael eu chwarae, fel ras nionyn ar lwy, cerdded ar stilts a thynnu rhaff traddodiadol.
Bu enwogion yn ymddangos mewn ciniawau, gan gynnwys y gantores o Lerpwl Liz McClarnon fu mewn Cinio Mawr fel rhan o wobr cystadleuaeth. Aeth Boris Johnson a Barbara Windsor, Llysgennad Swyddogol Partion Stryd Llundain, i Ginio Mawr yn Hackney, a beirniadu cystadleuaeth gwneud cacen.
Unwaith eto, roedd pobl yn dweud bod y diwrnod wedi gwneud gwahaniaeth mawr, gyda:
Gwylio uchafbwyntiau'r Cinio Mawr 2011
Daeth tua miliwn o bobl i ymuno yn yr ail Ginio Mawr, a chlywyd am ddigwyddiadau yn Ynysoedd y Shetland ac yn Awstralia!
Defnyddiodd nifer o bobl y Cinio Mawr er mwyn creu newid cadarnhaol:
Dywedodd 74% o'r rhai fu'n cymryd rhan wrthym eu bod wedi cynnal Cinio Mawr oherwydd eu bod am ddod i adnabod eu cymdogion yn well. Ar ôl hynny, dywedodd 94% eu bod yn teimlo'n nes atynt.
Gwylio uchafbwyntiau'r Cinio Mawr 2010
Yn ystod y Cinio Mawr cyntaf erioed, daeth bron i filiwn o bobl ar draws y wlad i gymryd rhan. Aeth pob cymdogaeth ati yn eu ffordd eu hunain:
Wedyn, dywedodd tri o bob pump o bobl wrthym eu bod wedi cyfarfod ffrindiau newydd, ac roedd pedwar o bob pump o bobl yn teimlo bod y digwyddiad wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned.
Gwylio uchafbwyntiau'r Cinio Mawr 2009
Rhannwch eich stori gyda'r Cinio Mawr
Dilynwch ni