Pam gychwynnon ni hynFe gychwynnodd Prosiect Eden Y Cinio Mawr oherwydd y gred ein bod ni, fel cymdeithas, yn fwy abl i wynebu sialensiau a ddaw i'n rhan wrth i ni eu hwynebu gyda'n gilydd.
Ers cychwyn y digwyddiad yn 2009, mae miloedd o Giniawau Mawr wedi cael eu cynnal ym mhob math o gymunedau ac mae tua miliwn o bobl wedi cymryd rhan bob blwyddyn. Disgwylir i nifer fwy nag erioed gymryd rhan ledled y wlad yn 2011.
Mae'r Cinio Mawr yn seiliedig ar gred y gall y byd fod yn well lle wrth i bobl gydweithio, gyda natur, optimistiaeth a synnwyr cyffredin.
Edrychwch ar y fideo isod am rai enghreifftiau o bethau da a ddaeth o'r Cinio Mawr yn 2009.
Pan fydd drysau'n agor, mae pobl yn agor yn ogystal a chymdogaeth – o benterfi bychain i stadau cyngor anferth – mae'r cyfan yn agor.
Mae nifer ohonom yn y DU yn byw bywydau unig, a gall Y Cinio Mawr fod yn esgus gwych i fynd allan a chyfarfod y bobl sy'n rhannu stryd, ffordd, stad neu floc o fflatiau gyda ni.
Nid yw'r ystadegau'n bleserus i'w darllen ond os ydym am eu newid, mae'n rhaid edrych arnynt:
Efallai eich bod yn meddwl mai parti stryd yw'r peth olaf i'w wneud er mwyn mynd i'r afael â throseddu, trais yn y cartref, digartrefedd neu dlodi plant. Ond gall fod yn fan cychwyn i wynebu materion pwysig, fel y gŵyr nifer a gymrodd ran yn Y Cinio Mawr y llynedd.
Rhannwch eich stori gyda'r Cinio Mawr
Dilynwch ni