Y Prosiect Eden
The Big Lunch 2012 - an Eden Project

Cefnogir gan

  • Y Gronfa Loteri Fawr
  • MasterCard
  • EDF Energy
  • Kingsmill
  • Asda

Gweithgareddau eraill i blant

Yn union fel adeg y Nadolig, byddem wrth ein bodd pe gallai athrawon helpu disgyblion i baratoi at Y Cinio Mawr, sef cyfle blynyddol cymdogaethau Prydain i ddod at ei gilydd. Pam na ddefnyddiwch chi'r syniadau isod i helpu pob plentyn i baratoi yn yr ystafell ddosbarth ar ddiwedd y tymor, a mynd a 'thamaid' adref i'w Cinio Mawr hwy ar ddydd Sul 5 Mehefin.

  • Y Sialens Faneri Fawr mewn partneriaeth â'r NCPTA
    Wedi'i hysbrydoli gan y prosiect codi arian hynod lwyddiannus 'Sponsor a bit of Bunting' a drefnwyd gan PTA Ysgol Iau Melbourne yn Derby sy'n aelod o'r NCPTA , Mae'r NCPTA a'r Cinio Mawr yn gwahodd Cymdeithasau Rhieni Athrawon (PTAs) ar draws y Deyrnas Unedig i gymryd rhan i geisio creu'r llinell hiraf o faneri yn y byd!

    Tipyn o hwyl yw hwn a allai godi arian i'ch PTA a chreu disgwyl am eich Cinio Mawr. Y cwbl sydd angen ei wneud yw:

    - creu nifer o dempledi papur / cardbord, yr un maint ag un faner (fel arweiniad – dylid creu triongl hafalochrog yn mesur 26cm x 26cm x 19cm)
    - dosbarthwch dempled i'r holl ddisgyblion a theuluoedd sy'n gysylltiedig â'ch ysgol / Cinio Mawr
    - gofynnwch i'ch cefnogwyr greu rhai baneri mewn unrhyw ddeunydd y mynnant

    - penderfynwch ar ddyddiad i ddod â'r baneri i'r ysgol
    - gofynnwch am rodd bychan am bob baner (e.e. 50c, £1 neu £2)br /> - Trefnwch i wirfoddolwyr eich PTA wnïo'r baneri wrth ei gilydd i greu momento unigryw iawn y gallwch ychwanegu ato bob blwyddyn.

    Bydd pob ysgol sy'n cymryd rhan yn y Sialens Faneri Fawr yn derbyn sticeri Siôn y Ddafad y Cinio Mawr i'w rhoi i'r disgyblion sy'n cyfrannu.

    Cofiwch roi gwybod i dîm Y Cinio Mawr os ydych yn ymuno yn y Sialens Faneri Fawr oherwydd bydd gwesteion adnabyddus a'r wasg yn ymweld â sawl lle o gwmpas y DU. Dylech e-bostio gwybodaeth @thebiglunch.com neu ffonio 020 7255 6455 i gofrestru eich bod yn cymryd rhan ac i dderbyn eich sticeri AM DDIM.

    Cyn gynted ag y bydd eich llinell o faneri wedi'i chreu, rhowch wybod inni pa mor hir ydyw a faint o arian a godwyd. Byddwn ni yna'n rhoi eich PTA chi mewn raffl gyda chyfle ichi ennill gwobrau gwych. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod ichi os bydd y Sialens Faneri Fawr yn curo Record Guinness presennol y Byd sy'n 2,737.72 m ac wedi'i dal gan Ysgol Uwchradd Malbank a Choleg Chweched Dosbarth Sir Gaer, sy'n aelodau o'r NCPTA.

  • Coginio rhywbeth creadigol
    Gofynnwch i'ch grwp ddylunio het barti neu fathodyn enw ar gyfer rhywun maen nhw'n eu hadnabod. Maen rhaid i'w cynllun ddweud pump peth am y person hwnnw.

    Gofynnwch iddynt ddylunio neu wneud rhywbeth tebyg ar gyfer y person drws nesaf neu rywun y bydden nhw'n hoffi dod i'w hadnabod ar eu stryd hwy. Efallai y byddant am alw heibio, mesur, tynnu llun neu gynnal cyfweliad bychan ynglŷn â'r math o het barti neu fathodyn y byddai eu cymydog yn ei hoffi. Byddai'n rhaid i'r het derfynol ddweud pum peth am y person hwnnw hefyd.

    Gofynnwch i'r grŵp wneud sioe a son am eu cynlluniau a'r person y maen nhw wedi gwneud het neu fathodyn ar eu cyfer.

    Ar gyfer y Cinio Mawr, gall pobl ifanc ddod at ei gilydd gyda ffrindiau neu deulu i wneud hetiau neu fathodynau i bawb ar eu stryd. Yn y digwyddiad, pam na wnewch chi dynnu llun o bawb?
  • Baneri Cinio Mawr
    Wedi eu hysbrydoli gan y digwyddiad codi arian llwyddiannus iawn 'Sponsor a bit of Bunting' a drefnwyd gan aelod o'r NCPTA Ysgol Gynradd Melbourne yn Derby, mae'r NCPTA a'r Cinio Mawr yn gwahodd Cymdeithasau Rhieni Athrawon ledled y DU i ymuno er mwyn ceisio creu llinell faneri hiraf y byd!

    Dyma weithgarwch hwyliog allai godi arian ar gyfer eich Cymdeithas Rhieni Athrawon a chreu tipyn o frwdfrydedd ar gyfer eich Cinio Mawr: Yn syml:

    • crëwch dempledi papur/cardfwrdd, yr un maint â darn unigol o faner
    • rhowch dempled i bob disgybl a theulu sy'n ymwneud â'ch ysgol/Cinio Mawr
    • gofynnwch i'ch cefnogwyr greu darn o fanner mewn unrhyw ddefnydd y maen nhw'n dymuno
    • nodwch ddyddiad ar gyfer dychwelyd y darnau baneri i'r ysgol
    • gofynwch am gyfraniad bychan am bob darn o'r fanner (e.e. 50c, £1, £2)
    • gofynnwch i'ch gwirfoddolwyr ar y Gymdeithas Rhieni Athrawon wnio'r darnau at ei gilydd er mwyn creu rhywbeth unigryw a pharhaol i gofio a gallwch ychwanegu ato bob blwyddyn.

    Bydd pob ysgol fydd yn cymryd rhan yn Her y Fanner Fawr yn derbyn sticeri Shaun the Sheep i'w rhoi i'r disgyblion fu'n cymryd rhan. Os ydych yn cymryd rhan yn yr her, cysylltwch gyda ni (e-bost: gwybodaeth@thebiglunch.com) i adael i ni wybod gan y bydd gwestai arbennig a'r wasg yn ymweld a nifer o ddigwyddiadau ledled y DU. Ffoniwch 020 7255 6455 am fwy o fanylion.

    Gadewch i ni wybod pa mor hir yw eich llinell o faneri a faint o arian ydych chi wedi llwyddo i'w godi. Byddwn ni wedyn yn rhoi enw eich Cymdeithas Rhieni Athrawon mewn het i gael y siawns o ennill gwobrau arbennig. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi os bydd Her y Faner Fawr yn curo'r Guiness World Record sef 2,737.72m ac sy'n cael ei dal gan aelodau NCPTA Ysgol Uwchradd a Choleg Chweched Dosbarth Malbank yn Swydd Gaer.

  • Geiriau'r Cinio Mawr
    Ar Noswyl Nadolig 1962 rhyddhaodd Cwmni General Mills eu hysbyseb canu cyntaf erioed, gyda chân am Wheaties, eu borefwyd hwy eu hunain.

    Gofynnwch i'ch criw feddwl am eu hoff ganeuon neu alawon hysbysebu. Beth sy'n gwneud alaw dda? Beth sy'n gwneud geiriau da? Beth sy'n gwneud jingl da? Sut allai eich grŵp chi ysgrifennu geiriau ar gyfer cân neu jingle sy'n hysbysebu'r Cinio Mawr? Beth am rap neu gân sy'n sôn am y ble maen nhw'n byw?
    Gofynnwch i rywun o'ch gorsaf radio leol ddod atoch i sôn am ganeuon parti a jinglau da. Efallai y gallent feirniadu cystadleuaeth jingle?

    Unwaith y bydd eich grŵp wedi meddwl am jingl neu gan, gallent ddarganfod os oes rhywun yn eu cymdogaeth yn chwarae rhyw offeryn neu a fyddai'n gallu helpu i greu darn o gerddoriaeth i'w recordio neu i ganu yn eu digwyddiad?

    Ar gyfer Y Cinio Mawr, pam na wnewch chi ganu neu chwarae can i gychwyn y parti. Allai eich grŵp gael chwarae eu jingl radio ar yr orsaf radio gymuned neu leol?

    Os ydych eisiau ysbrydoliaeth, mae ein ffrindiau yn y DaCapo Music Foundation wedi comisiynu'r cyfansoddwr o Hollywood, John Ashton Thomas i ysgrifennu cân ar gyfer eu prosiect addysg cerddoriaeth newydd, The Street Party, sy'n dwyn ei thema gan Y Cinio Mawr. Felly gofynnwch i'ch grŵp chi ei chanu, chwarae a'i pherfformio cyn iddynt gychwyn ysgrifennu eu cân eu hunain.

    Gallwch lawr lwytho'r copi cerddoriaeth a'r mp3.

  • Posau lliain bwrdd
    Lluniwch liain bwrdd gyda chwestiynau cwis, jôcs doniol neu gemau dyfalu. Gallwch brynu papur plaen o'r rhan fwyaf o archfarchnadoedd.

    Gofynnwch i'r grŵp ddylunio lliain bwrdd sy'n cynnwys jôcs tebyg i rai cracers neu gwestiynau cwis hwyliog ar destun o'ch dewis chi i gychwyn sgwrs.

    Gofynnwch iddynt fynd adref a dod o hyd i bum ffaith leol a phum cwestiwn am eu cymdogaeth neu gymuned leol ar gyfer eu bwrdd. Allen nhw ddod â lluniau, cwestiynau enwi llefydd, gwneud cystadleuaeth nodi'r gwahaniaethau gyda hen luniau?

    Gofynnwch i'r grŵp cyfan gynllunio a dylunio llieiniau bwrdd fel y bydd gan bob lle wrth y bwrdd gwestiynau hwyliog neu jôcs. Gofynnwch i'r grŵp osod eu bwrdd eu hunain o amgylch eu cynllun, cael cinio gyda'i gilydd a gofyn cwestiynau i'r naill a'r llall wrth fwyta.

    Dyma rywbeth y gallai pobl ifanc ei wneud ar gyfer y Cinio Mawr. Beth am gynnwys cwestiynau dod i adnabod, gweithgareddau sy'n profi'r ymenydd ac yn torri'r ias, er mwyn i bobl ddod i adnabod eu cymdogion yn well ar y diwrnod mawr.
  • Banneri Cinio Mawr
    Oeddechchi'n gwybod fod y posteri cyntaf i gael eu mas gynhyrchu wedi cychwyn yn y 1970au? Dyfeiswyd y gelfyddyd o lunio posteri gan yr artistiaid o Ffrainc Henri de Toulouse-Lautrec a Jules Chéret. Roedden nhw'n defnyddio argraffu litho er mwyn gallu mas gynhyrchu eu gwaith.

    Gofynnwch iddynt edrych ar eu hoff bosteri hysbysebion, pam maen nhw'n eu hoffi, beth sy'n eu gwneud yn effeithiol, pa iaith maen nhw'n eu defnyddio. Gofynnwch iddynt gyfansoddi neu ddylunio ymgyrch boster neu wneud bwrdd stori hyd yn oed ar gyfer hysbyseb neu boster sy'n dathlu'r hyn sy'n dda am eu stryd neu eu cymdogaeth hwy.

    Cynhaliwch gystadleuaeth ddylunio a chael rhywun o'r gymuned leol i ddewis y cynlluniau gorau.

    Ar gyfer Y Cinio Mawr, gallen nhw ddarganfod pwy sy'n cynnal digwyddiad yn lle maen nhw'n byw a gwneud poster i helpu? Allen nhw darganfod enwau'r holl deuluoedd a phobl yn eu stryd hwy a gwneud gwahoddiadau? Syniad arall fyddai galw heibio i weld ychydig o bobl a gofyn a fyddent yn rhoi poster yn eu ffenestr?

    Syniadau am weithgareddau i lawr lwytho a'u hargraffu.
  • Tyfu eich Cinio eich hun
    Beth am gael plant i dyfu rhywbeth syml ar gyfer y diwrnod? Edrychwch ar adran Y Cinio Mawr ar dyfu eich cynnyrch eich hun. Gallwch hefyd fynd i'r gwefannau hyn gyda gwybodaeth arbennog ar gyfer ysgolion:

    Ysgolion sy'n tyfu - Mae'n dangos i athrawon sut i ddefnyddio'r lle y tu allan i ddysgu ac mae'n cynnig nifer o syniadau am beth i'w dyfu, ble a pha bryd.

    Gerddi Organig i ysgolion - Ymgyrch dwry'r wlad sy'n helpu plant i dyfu llysiau yn yr ysgol a dysgu mwy am fwyd.

    RHS i ysgolion - Nifer o syniadau sut y gall sygolion wneud yn fawr o ardd eu hysgol, gan gynnwys astudiaethau achos o'r hyn y mae ysgolion eraill wedi ei greu.
  • [item heading / question]
    [item content / answer]
  • [item heading / question]
    [item content / answer]

 

Sunday 3rd June

17 diwrnod

Beth am ddechrau trefnu eich Cinio Mawr yn gynnar.

Darllenwch mwy

Cadw mewn cysylltiad

Derbyn ein cylchlythyr, yn llawn syniadau, pethau am ddim a chystadlaethau.

Straeon llwyddiant

Big Lunch map

Ysbrydoliaeth o Ginio Mawr y gorffennol ledled y wlad.

Gweld map o'r Cinio Mawr

Symbyliad a syniadau

[image]

Nifer o ffyrdd i wneud eich Cinio Mawr yn hwyl i bawb.

Cychwyn arni

Dilynwch ni