10 cam hawdd i drefnu Cinio Mawr munud olaf
Os ydych yn trefnu eich cinio fisoedd ymlaen llawn, neu ddim ond criw’n dod at ei gilydd ar y funud olaf, dyma ambell gyngor defnyddiol i’ch helpu:
- Dewis lleoliad
Gellir cynnal eich Cinio Mawr yn unrhyw le: yn y ffordd, yr ardd gefn, parc, ysgol neu ganolfan gymuned. Y cyfan sy'n rhaid ei wneud yw sicrhau eich bod wedi cael y caniatâd angenrheidiol ac os ydych am gau'r ffordd, mae'n well gwneud ymholiadau'n syth
- Cau'r ffordd (os ydych yn dymuno)
Mae ar rai cynghorau angen rhybudd o 12 wythnos i brosesu ceisiadau i gau ffyrdd, felly'n mae'n well holi'n gynnar beth yw polisi'ch cyngor lleol chi. Fel arfer, rhywun o adran y Priffyrdd neu Ddigwyddiadau sy'n delio gyda hyn, ond mae hyn yn dibynnu ar y wlad ar ardal rydych yn byw ynddi. Gellir dod o hyd i ffurflen syml ynglŷn â chau ffordd a chanllaw yma ond os oes gennych unrhyw broblemau, ffoniwch y tîm ar 0845 850 8181.
- Holwch pwy sydd am ddod
Ceisiwch ddod o hyd i ychydig o gymdogion cyfeillgar i'ch helpu i ddosbarthu pamffledi a gosod ychydig o bosteri. Gallwch ddefnyddio'r deunyddiau sy'n dod yn y pecyn neu lawr lwytho templedi yma. Peidiwch ag anghofio pwysigrwydd cynnal sgwrs; ceisiwch roi gwahoddiad personol i gynifer o bobl ag y gallwch a gofynnwch iddynt ledaenu'r gair.
- Cefnogaeth leol
Peidiwch â bod ofn mynd o amgylch i weld beth all pobl ei gynnig ar gyfer eich Cinio Mawr. Efallai y byddai siopau, caffis a busnesau lleol yn fodlon rhoi benthyg pethau i chi megis byrddau a chadeiriau, cyfrannu bwyd a diod a hyd yn oed wobrau raffl. Cewch eich synnu gan haelioni pobl leol, ddim ond i chi ofyn!
-
Roedd bod yn rhan o'r trefniadau yn gymaint o hwyl a'r diwrnod mawr ei hun. Roedd yn ffordd wych i ddod i adnabod y naill a'r llall.
Bwyd
Cadwch bethau'n syml! Dewis da yw i bawb ddod a'u picnic eu hunain gan nad oes llawer o waith paratoi ymlaen llaw neu gallech ofyn i bawb ddod ag un peth i'w rannu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth mae pawb am ei gyfrannu rhag ofn i chi gael gormod o'r un peth! Mae yna rysetiau syml ar gyfer coginio ar gyfer criw mawr yma Gallwch hefyd ddefnyddio cynllunydd wal y Cinio Mawr sy'n dod gyda'ch pecyn am ddim, er mwyn eich helpu chi i dyfu eich cinio eich hun!
- Addurniadau
Gwnewch faneri allan o hen ddefnyddiau, bagiau plastig neu gynnwys eich blwch ailgylchu. Gallwch eu styffylu neu eu gludo gyda'i gilydd gan ddefnyddio gwe a haearn poeth, yn hytrach na gorfod eu pwytho, a gofyn i eraill wneud darnau ac yna'u cysylltu nhw i gyd gyda'i gilydd. Rhowch sialc i'r plant i addurnod palmant. Ychydig o falwnau, ffrydwyr a blodau ac rydych yn barod! Cliciwch yma i weld sut i gystadlu yn ein Cystadleuaeth Bwnting Mawr
- Cerddoriaeth
Ffordd syml o drefnu ychydig o gerddoriaeth gefndir yw bod nifer o gartrefi yn dewis yr un orsaf radio ac yn agor eu ffenestri er mwyn cael sŵn yn dod o bob cyfeiriad. Oes yna unrhyw un sy'n chwarae offeryn ac awydd chwarae – does dim byd yn well na cherddoriaeth fyw.
- Codi arian yn eich Cinio Mawr
Mae nifer o bobl yn defnyddio eu Cinio Mawr i godi ymwybyddiaeth neu arian at achos sy'n bwysig iddynt, boed hynny'n rhywbeth sy'n bwysig yn lleol neu at achos mawr, cenedlaethol ac rydym ni'n hapus iawn bob amser pan fyddwch yn gwneud hynny dros Eden. Cliciwch yma i weld pa sefydliadau ac elusennau rydym ni'n gweithio gyda nhw
- Ar y diwrnod – y cyngor gorau:
• Ceisiwch wneud yn siŵr bod eich adloniant, gemau a gweithgareddau'n addas i bob oed. Mae pentwr o syniadau ar y wefan.
• Os oes gennych gerddoriaeth, gwnewch yn siŵr ei bod yn amrywiol, ddim yn rhy uchel a ddim yn mynd ymlaen yn rhy hwyr!
• Nodwch amser ar gyfer cinio – mae'n help i gael cychwyn ar y parti
• Tynnwch luniau ac yn bwysicaf oll, mwynhewch!
Cliciwch yma am fwy o syniadau ar gyfer y diwrnod
- Ar ôl y parti
Unwaith y byddwch wedi tynnu'r bwnting i lawr ac wedi plygu'r byrddau, byddem ni wrth ein boddau pe baech chi'n cysylltu â ni i ddweud sut aeth eich Cinio Mawr chi. Rhannwch eich lluniau a'ch straeon gyda ni ar Facebook a Flickr neu drwy e-bost yourstories@thebiglunch.com neu ffoniwch am sgwrs ar: 0845 850 8181
Cliciwch yma ar gyfer eich tudalen Cwestiynau Cyffredin
Dywedwch wrthym am eich Cinio Mawr
Os ydych yn fodlon cael eich defnyddio fel astudiaeth achos yn y wasg, anfonwch eich manylion cyswllt at gwybodaeth@thebiglunch.com
Sunday 3rd June
17 diwrnod
Beth am ddechrau trefnu eich Cinio Mawr yn gynnar.
Darllenwch mwy
Cadw mewn cysylltiad
Derbyn ein cylchlythyr, yn llawn syniadau, pethau am ddim a chystadlaethau.
Symbyliad a syniadau
Nifer o ffyrdd i wneud eich Cinio Mawr yn hwyl i bawb.
Cychwyn arni
Dilynwch ni