Dydy hi byth yn rhy hwyr i drefnu Cinio Mawr, boed hynny'n ychydig o gartrefi'n dod at ei gilydd am bicnic neu yn barti stryd mawr. Er mwyn cychwyn ar y gwaith, beth am edrych ar ein 10 cam hawdd i drefnu Cinio Mawr
Am gau eich ffordd ar gyfer eich Cinio Mawr? Darllenwch ein canllaw ar sut i gau eich ffordd ac i lawr lwytho canllaw parti stryd yma
Efallai y bydd rhai cynghorau'n gofyn i chi gael Yswiriant Atebolrwydd y Cyhoedd fel rhan o'ch cais i gau ffordd. Rydym ni'n argymell Event Insurance Services Street Parties neu Event Assured Street Party Insurance. Mae gan Event Insurance Services daflen wybodaeth i'ch helpu gyda'ch digwyddiad, gallwch ei lawr lwytho yma.
Gallech ymuno hefyd gyda Your Square Mile, Citizen Mutual cyntaf y DU, am ddim ond £10 a chael yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus Am ddim ac Yswiriant Parti Stryd am bris gostyngol i'ch Cinio Mawr.
Os mai digwyddiad bychan yr ydych yn ei gynnal ac nad oes angen cau ffyrdd, nid oes angen yswiriant parti stryd bob amser, ond mae'n syniad da gwirio hynny gyda'ch cyngor a'ch cymdogion i wneud yn siŵr bod pawb yn cytuno.
Am fwy o gyngor ar bartïon stryd beth am fynd i edrych ar ein Strydoedd Byw.
Os na allwch chi ddod o hyd i'r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani ar y dudalen hon, gallwch ein e-bostio ar gwybodaeth@thebiglunch.com.
Dilynwch ni