Nid oes raid i'r Cinio Mawr fod yn fusnes costus; mae gennym lawer o syniadau i'ch helpu i gael diwrnod cofiadwy heb gostio llawer. Pam nad ewch chi i gael golwg ar ein canllaw 'Cinio Mawr am arian bach' am ychydig o ysbrydoliaeth.
Os ydych chi'n meddwl y bydd ychydig o arian o help i'ch Cinio Mawr gael effaith fwy parhaol yn y gymuned, edrychwch yn gyflym ar y rhestr isod i weld a ydych yn ateb gofynion unrhyw rai o'r grantiau isod. Nid yw'n rhestr gyflawn, felly gallwch wneud eich ymchwil eich hun hefyd am ffynonellau lleol ac fe ychwanegwn ninnau rai eraill hefyd fel y byddwn yn clywed amdanynt.
Cofiwch fod rhai cronfeydd ar y rhestr hon yn rhoi grantiau i sefydliadau neu elusennau cofrestredig yn unig, ac eraill angen sawl mis o rybudd, neu maent yn prosesu ceisiadau ar rai adegau o'r flwyddyn yn unig. I roi'r cyfle gorau i chi eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y meini prawf llawn sydd ar gael ar y gwefannau unigol yn ofalus, teilwra eich cais i fodloni'r meini prawf a gadael digon o amser ar gyfer ei phrosesu.
Rhannwch eich stori gyda'r Cinio Mawr
Dilynwch ni