Y Prosiect Eden
The Big Lunch 2012 - an Eden Project

Cefnogir gan

  • Y Gronfa Loteri Fawr
  • MasterCard
  • EDF Energy
  • Kingsmill
  • Asda

Cinio Jiwbilî Mawr – dydd Sul 3ydd Mehefin 2012

Bydd y pedwerydd Cinio Mawr blynyddol yn digwydd ar yr un penwythnos a Jiwbilî Diemwnt y Frenhines. Felly, gall unrhyw un sydd eisiau dathlu a chofio teyrnasiad y Frenhines am 60 mlynedd, wneud hynny drwy gynnal Cinio Jiwbilî Mawr!

Fel y cyhoeddodd Palas Buckingham, bydd Y Cinio Jiwbilî Mawr yn rhan o brif raglen o ddigwyddiadau dros benwythnos canolog dathliadau'r Jiwbili Diemwnt ym mis Mehefin 2012. Cynhelir gŵyl y banc 4 diwrnod arbennig - dydd Sadwrn 2il i ddydd Mawrth 5ed Mehefin - felly bydd digon o amser i chi fwynhau'r ciniawa yn eich cymuned.

Daeth tua 10 miliwn o bobl allan ar ddiwrnod heulog ym 1977 i ddathlu'r Jiwbilî Arian, felly rydym yn gobeithio y bydd nifer fawr o bobl yn cymryd rhan yn y Cinio Mawr am y tro cyntaf yn 2012 - gan ymuno a bron i 2 filiwn ohonom sydd wedi bod yn gwneud hyn dros y 3 blynedd diwethaf!

Y peth da ynglŷn â'r Cinio Mawr yw mai'r bobl eu hunain sy'n penderfynu ynglŷn â'u digwyddiad eu hunain. Gall y lleoliad fod yn unrhyw le y mae gennych le neu yr ydych eisiau, a'r thema fel y mynnoch chi – bwyd a phobl yw'r cynhwysion pennaf. Yn syml iawn, rydym am weld cynifer a phosibl yn eistedd i gael cinio gyda'u cymdogion ar y dydd Sul cyntaf ym mis Mehefin. Wedi'r cyfan, mae'r Cinio Mawr yn golygu cymuned, cyfeillgarwch a hwyl!

  • Rhaglen Swyddogol y Jiwbilî Diemwnt

    drawing of the 2012 thames jubilee pageant

    Yn ogystal â'r Cinio Jiwbilî Mawr ar ddydd Sul 3ydd Mehefin, mae llond lle o weithgareddau'n cael eu cynnal yn ystod dathliadau penwythnos y Jiwbili Diemwnt. Dyma restr o'r digwyddiadau swyddogol.

    Darllen mwy
  • Mwy o Brosiectau'r Jiwbilî

    boys running across a park field

    Dyma rai o'r sefydliadau cefnogol yr ydym ni'n bartneriaid iddynt ac sy'n cynnal prosiectau Jiwbili Deimwnt eleni.

    Darllen Mwy
  • Pecyn AM DDIM

    a picture of the contents of Big Lunch packs

    Mae cynnal Cinio Jiwbilî Mawr yn eich ardal chi'n syml. Gwnewch gais am Becyn AM DDIM heddiw er mwyn cychwyn arni.

    Get your Jubilee pack
  • Syniadau

    A photo of food and flowers against a brick wall

    Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer eich Cinio Jiwbilî Mawr, yna mae gennym ddigon o syniadau, o fwydydd parti blasus i gemau y gall pobl o bob oed eu chwarae.

    Get some tips
  • Codi arian at elusen

    man dressed as cow and woman as cowgirl with food on plate

    Mae rhai pobl yn defnyddio eu Cinio Mawr i godi arian at elusen – ac yn defnyddio pob math o syniadau gwahanol a diddorol i wneud hynny. Os ydych yn dewis defnyddio eich cinio fel digwyddiad codi arian, rydym wedi rhestru rhai achosion da.

    Darllen Mwy

Bydd tîm y Cinio Mawr yma i'ch helpu ar hyd y ffordd wrth gynllunio eich Cinio Jiwbilî Mawr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch drwy info@thebiglunch.com neu ffoniwch 0845 850 8181 i siarad gydag aelod o'r tîm. Ac, os oes gennych unrhyw straeon Jiwbili yr hoffech eu rhannu, anfonwch nhw at jubileestories@thebiglunch.com

Sunday 3rd June

Rhannwch eich stori gyda'r Cinio Mawr

Cadw mewn cysylltiad

Derbyn ein cylchlythyr, yn llawn syniadau, pethau am ddim a chystadlaethau.

Straeon llwyddiant

Big Lunch map

Ysbrydoliaeth o Ginio Mawr y gorffennol ledled y wlad.

Gweld map o'r Cinio Mawr

Symbyliad a syniadau

[image]

Nifer o ffyrdd i wneud eich Cinio Mawr yn hwyl i bawb.

Cychwyn arni

Dilynwch ni