Pan fyddwch chi ar wefan Y Cinio Mawr a gofynnir ichi am wybodaeth bersonol, rydych yn rhannu eich gwybodaeth gyda thîm Y Cinio Mawr a neb arall, fel y gallwn redeg y digwyddiad yn llwyddiannus. Oni nodir yn benodol fel arall – fel yn ystod y broses gofrestru, lle gallwch nodi'n wahanol – ni fyddwn yn pasio eich enw na'ch cyfeiriad e-bost ymlaen at drydydd partïon, gan gynnwys mudiadau a chwmnïau sy'n bartneriaid i neu sy'n cefnogi Y Cinio Mawr.
Mae'r Cinio Mawr yn casglu gwybodaeth mewn amrywiol ffyrdd o wahanol rannau o'r gwasanaeth. Mae peth o'r wybodaeth yn cael ei chasglu wrth ichi gofrestru. Wrth gofrestru i drefnu neu fynychu Cinio Mawr, bydd Y Cinio Mawr yn gofyn ichi am eich enw, cyfeiriad e-bost, cod post a'ch diddordebau.
Fel a nodir wrth ichi gofrestru, os byddwch yn cofrestru i drefnu Cinio Mawr, rydych yn cytuno i dderbyn e-byst gan Y Cinio Mawr a fydd yna'n pasio ymlaen manylion y rhai a fydd yn mynychu'r Cinio Mawr. Os byddwch yn dewis mynychu Cinio Mawr, fel a nodir wrth ichi gofrestru, byddwn yn pasio eich enw a'ch cyfeiriad e-bost ymlaen at drefnydd y Cinio Mawr hwnnw. Drwy gofrestru, rydych yn cytuno i rannu eich e-bost a'ch enw gyda threfnydd eich Cinio Mawr.
Bydd Y Cinio Mawr yn e-bostio pobl sydd wedi cofrestru yn gyson, fel bod y tîm yn gallu helpu i redeg digwyddiadau Cinio Mawr yn llwyddiannus ar draws y wlad. Ond os nad ydych am dderbyn e-byst yn y dyfodol, gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen "dad-danysgrifio" ym mhob e-bost a anfonir atoch.
O bryd i'w gilydd bydd y Cinio Mawr hefyd yn gofyn i ddefnyddwyr lenwi arolygon i bwrpas ymchwil. Os hoffech ddewis peidio â derbyn yr e-byst hyn ar unrhyw adeg, neu ryportio camddefnydd, cysylltwch gyda'r Cinio Mawr yninfo@thebiglunch.com.
Pan / os byddwch yn cysylltu gyda'r Cinio Mawr, efallai y byddwn yn cadw cofnod o'r ohebiaeth honno.
Fel rheol, ni fydd Y Cinio Mawr yn datgelu dim o'ch gwybodaeth bersonol heblaw pan fyddwn wedi gofyn am eich caniatâd neu mewn amgylchiadau arbennig, pan gredwn fod angen gwneud hynny'n gyfreithiol er enghraifft. Bydd Y Cinio Mawr yn gwarchod cyfrinachedd a diogelwch y wybodaeth honno, ac ni fyddwn yn gadael i drydydd partïon ddefnyddio'r wybodaeth honno heblaw yng nghyswllt trefniadau sy'n cyd-fynd â digwyddiad Y Cinio Mawr.
Gall Y Cinio Mawr gadw Cynnwys ac efallai ddatgelu Cynnwys i unrhyw drydydd parti os oes angen iddo wneud hynny'n gyfreithiol neu os yw'n credu'n bendant bod angen cadw neu warchod y wybodaeth er mwyn:
(a) cydymffurfio gyda phroses gyfreithiol
(b) gorfodi Telerau'r Gwasanaeth
(c) gwarchod hawliau, eiddo neu ddiogelwch personol Y Cinio Mawr, ei aelodau a'r cyhoedd
Gallwch newid unrhyw ran neu eich gwybodaeth i gyd drwy gysylltu gyda'r Cinio Mawr yn gwybodaeth@thebiglunch.com.
Mae'r Cinio Mawr yn defnyddio briwsion i storio gwybodaeth amdanoch. Tamaid o ddata yw briwsionyn sy'n cael ei anfon i'ch porwr o weinydd gwe a'i storio ar eich cyfrifiadur. Mae'r Cinio Mawr yn defnyddio briwsion i ddweud a ydyw defnyddiwr y wefan wedi logio mewn, lle i ddod o hyd i fanylion er mwyn gallu llenwi rhannau o ffurflenni ar-lein ymlaen llaw ac i bersonoleiddio ymweliad y defnyddiwr â'r wefan. Defnyddir hwynt hefyd i dracio'n ddi-enw pa rannau o'r wefan sy'n boblogaidd a pha rai sy'n segur; mae hyn yn gadael inni fonitro a gwella cynnwys y wefan a'r ffordd y mae pobl yn mordwyo drwyddi.
Fel arfer mae porwyr rhyngrwyd yn derbyn briwsion yn ddiofyn; ond mae'n bosibl gosod porwr i wrthod briwsion. Drwy addasu eich dewisiadau porwr, gallwch ddewis derbyn pob briwsionyn, cael eich hysbysu pan fydd briwsionyn yn cael ei osod neu wrthod pob briwsionyn. Os dewiswch wrthod pob briwsionyn, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r rhannau o wasanaeth Y Cinio Mawr sydd angen cofrestru ar eu cyfer i gymryd rhan.
Cofiwch logio allan o'ch cyfrifiadur neu gau ffenestr eich porwr ar ôl gorffen eich gwaith i sicrhau na fydd neb arall yn gallu gweld eich gwybodaeth bersonol a'ch gohebiaeth.
Yn anffodus, ni ellir gwarantu bod unrhyw ddata sy'n cael ei yrru dros y Rhyngrwyd yn 100% ddiogel. O ganlyniad, er ein bod yn gweithio'n galed i warchod eich gwybodaeth bersonol, ni all Y Cinio Mawr sicrhau na gwarantu diogelwch unrhyw wybodaeth yr anfonwch atom nac o'n cynhyrchion neu wasanaethau ar-lein, felly byddwch yn gwneud hyn ar eich menter eich hun.
Cofiwch bob tro y byddwch yn wirfoddol yn datgelu gwybodaeth bersonol ar-lein, gan gynnwys yn eich gohebiaeth o fewn grwp trafod, bod eraill yn gallu casglu a defnyddio'r wybodaeth honno. Yn fyr, os byddwch yn datgelu gwybodaeth bersonol ar-lein sydd ar gael i eraill, mae'n bosibl y byddwch yn derbyn negeseuon na wnaethoch ofyn amdanynt gan bartïon eraill.
Dylech gofio os byddwch yn mynd ar wefannau eraill, drwy'r dolenni a roesom ichi, bod y rhain y tu allan i'n rheolaeth ni. Os byddwch yn rhoi data personol i gwmnïau eraill, bydd polisïau preifatrwydd y cwmnïau hynny yn penderfynu pa ddefnydd y gellir ei wneud o'ch data ac ni fydd Polisi Preifatrwydd Y Cinio Mawr mwyach yn berthnasol.
Gall y polisi hwn newid o bryd i'w gilydd, felly cofiwch wirio weithiau i weld a ydyw wedi newid. Yn y pen draw, chi sy'n llwyr gyfrifol am gadw unrhyw wybodaeth amdanoch eich hun yn gyfrinachol. Felly byddwch yn ofalus a chyfrifol pob tro y byddwch ar-lein.
Mae Y Cinio Mawr a'i bartneriaid yn ymrwymedig i warchod a chadw eich data personol yn breifat, ac felly byddwn yn cadw'r data hwnnw yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Diogelu Data Llywodraeth y DU.
Dilynwch ni