Y Prosiect Eden
The Big Lunch 2012 - an Eden Project

Cefnogir gan

  • Y Gronfa Loteri Fawr
  • MasterCard
  • EDF Energy
  • Kingsmill
  • Asda

Telerau ac amodau

Rhoddir mynediad at a chaniateir ichi ddefnyddio'r wefan thebiglunch.com ar y telerau a'r amodau canlynol:

Mae ein gwefan, http://www.thebiglunch.com yn wasanaeth Rhyngrwyd a gyhoeddir gan gwmni Eden Project Limited.

Wrth fynd i'n gwefan rydych yn derbyn ein Telerau a'n Amodau. Efallai y byddwn yn penderfynu eu newid ar unrhyw adeg ac, os felly, bydd y newidiadau hynny wedi eu hysgrifennu o fewn y telerau a'r amodau hyn.

  1. Telerau defnyddio
  2. Ymwrthodiad/Cyfyngiad Atebolrwydd
  3. Hawlfraint ac Eiddo Deallusol Arall
  4. Cynhyrchion yr Eden Project
  5. Indemniad
  6. Y Gyfraith ac Awdurdodaeth
  7. Rheolau a Rheoliadau

1. Telerau defnyddio

Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon ar gyfer pwrpasau cyfreithiol yn unig, ac mewn ffordd nad yw'n amharu ar hawliau na'n cyfyngu neu'n lleihau defnydd a mwynhad o'r wefan hon gan unrhyw drydydd parti, ac mae'r cyfyngu neu'r lleihad hwn yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy'n anghyfreithlon, neu a allai harasio neu achosi trallod neu anhwylustod i unrhyw berson ynghyd â throsglwyddo cynnwys anweddus neu sarhaus neu sy'n tarfu ar lif arferol y ddeialog ar y wefan hon.

2. Ymwrthodiad/Cyfyngiad Atebolrwydd

Mae'r wefan hon a'r wybodaeth, enwau, delweddau, lluniau, logos ac eiconau ynghylch neu yng nghyswllt Y Cinio Mawr a / neu'r Eden Project, ei gynhyrchion a'i wasanaethau (neu yng nghyswllt cynhyrchion a gwasanaethau Trydydd Parti), yn cael eu darparu"fel y maent" ac ar sail "ar gael" heb unrhyw gynrychiolaeth nac ardystiad a heb unrhyw warant o unrhyw fath, p'un ai wedi'i fynegi neu ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod wedi'i gyfyngu i'r gwarantau ymhlyg ynghylch bod y pethau hyn o ansawdd boddhaol, yn ffit i bwrpas neilltuol, ddim yn amharu, yn gydnaws, ac o ran diogelwch a chywirdeb. Ni fydd Y Cinio Mawr a / neu yr Eden Project o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw ddifrod, gan gynnwys, heb gyfyngiad, difrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw ddifrod o gwbl yn codi o ddefnydd neu golli defnydd, data, neu elw, p'un ai drwy weithred cytundeb, esgeulustod neu weithred drofaus arall, yn codi o neu yng nghyswllt defnyddio'r wefan. Nid yw'r Cinio Mawr yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-fwlch neu'n ddi-wall, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan hon neu'r gweinydd sy'n ei rhoi ar gael yn rhydd o firysau neu fygiau neu'n honni bod y deunyddiau yn gwbl weithredol, cywir a dibynadwy. O bryd i'w gilydd byddwn efallai'n cyhoeddi dolenni i wefannau y teimlwn a allai fod o ddiddordeb ichi. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y gwefannau yr ydym yn eu hargymell yn adlewyrchu'r polisïau yn ein Canllawiau Eden Project, er na allwn gael ein dal yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol.

3. Hawlfraint ac Eiddo Deallusol Arall

Mae gan wefan Y Cinio Mawr hawlfraint. Mae enwau, delweddau a'r logos sy'n adnabod Y Cinio Mawr neu drydydd partïon a'u cynhyrchion a'u gwasanaethau yn nodau sy'n eiddo i'r Eden Project, Eden Project a / neu drydydd partïon. Ni cheir dehongli unrhyw beth ynddi i fod yn rhoi drwy awgrymiad neu fel arall unrhyw drwydded neu hawl o dan unrhyw nod masnach neu batent gan Y Cinio Mawr, yr Eden Project neu unrhyw drydydd parti arall. Ni cheir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, postio, darlledu na throsglwyddo unrhyw ddeunydd a geir o fewn tudalennau'e wefan http://www.thebiglunch.com/, gan gynnwys testun neu ddelweddau, mewn unrhyw ffordd ac eithrio ar gyfer eich defnydd anfasnachol personol chi eich hun. Rhaid cael caniatâd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall drwy gysylltu gyda'r Cinio Mawr. Rydym yn caniatáu ichi ddod ar y wefan hon yn ddychwelyd am ichi gytuno i beidio ag addasu, newid na chreu unrhyw waith a fyddai'n deillio o unrhyw ddeunydd a gynhwysir ar y wefan hon. Yn ogystal, ni allwch ddefnyddio'r deunydd i unrhyw bwrpas arall ac eithrio eich defnydd anfasnachol personol chi eich hun oni bai fod y drwydded briodol wedi'i rhoi gan Y Cinio Mawr i wneud hynny..

4. Cynhyrchion Y Cinio Mawr

Mae'r holl gynhyrchion a gwasanaethau y cyfeirir atynt ar y wefan hon yn amodol ar iddynt fod ar gael ac ar gael drwy ddisgresiwn llwyr Y Cinio Mawr.

5. Indemniad

Rydych yn cytuno i gadw Y Cinio Mawr wedi'i indemnio rhag unrhyw hawliad, iawndal, treuliau, costau ac unrhyw ddyledion yn codi mewn unrhyw ffordd o fynd ar a defnyddio'r wefan ac eithrio'n unol â'r telerau a'r amodau hyn.

6. Cyfraith ac Awdurdodaeth

Os penderfynir bod unrhyw un o'r Telerau a'r Amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu fel arall na ellir eu gorfodi o dan gyfreithiau unrhyw wladwriaeth neu wlad y bwriedir i'r Telerau a'r Amodau hyn fod mewn grym, yna i'r graddau ac o fewn yr awdurdodaeth y mae'r Term neu'r Amod hwnnw'n anghyfreithlon, annilys neu'n anorfodadwy oddi mewn iddi, bydd yn cael ei dynnu allan a'i ddileu o'r cymal hwn a bydd gweddill y Telerau a'r Amodau yn dal i fodoli, yn parhau i fod mewn grym ac yn gwbl effeithiol ac yn parhau i rwymo ac i fod yn orfodadwy.

Bydd y Telerau a'r Amodau hyn wedi eu llywodraethu gan a'u dehongli'n unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod yn codi yma yn llwyr ddarostyngedig i awdurdod y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.

7. Rheolau a Rheoliadau

O bryd i'w gilydd o fewn y wefan byddwch yn dod ar draws rheolau neu dermau'n cyfeirio at ddeunydd penodol a allai fod yn gwrthdaro gyda neu'n gwrth-ddweud y telerau a'r amodau hyn. Gallai'r rhain fod yn rheolau ar gyfer cystadlaethau, gofynion lawrlwytho penodol, neu'n rafflau gwobrau, er enghraifft. Os oes unrhyw wrthdaro, yna bydd y rheolau neu'r termau sy'n ymwneud â'r deunydd penodol yn cael blaenoriaeth dros y telerau a'r amodau mwy cyffredinol.

Sunday 3rd June

Rhannwch eich stori gyda'r Cinio Mawr

Cadw mewn cysylltiad

Derbyn ein cylchlythyr, yn llawn syniadau, pethau am ddim a chystadlaethau.

Straeon llwyddiant

Big Lunch map

Ysbrydoliaeth o Ginio Mawr y gorffennol ledled y wlad.

Gweld map o'r Cinio Mawr

Symbyliad a syniadau

[image]

Nifer o ffyrdd i wneud eich Cinio Mawr yn hwyl i bawb.

Cychwyn arni
[rh teasers]

Dilynwch ni